 |
|
|
|
|
| ATODIAD 4: ASESIADAU TRAFNIDIAETH
A CHYNLLUNIAU TEITHIO |
| |
|
MEINI PRAWF AR GYFER GOFYN AM ASESIADAU
TRAFNIDIAETH |
| A4.1 |
Mae nifer o gynigion am ddatblygiad o faint
neu fath fyddain arwain at lefelau sylweddol uwch o deithiau ar hyd
y rhwydwaith ffyrdd cyfagos. Mewn rhai amgylchiadau gall y cynnydd ychwanegol
olygu bod angen gwneud newidiadau i gynllun y ffyrdd neu ir gwasanaeth
cludiant cyhoeddus. |
| A4.2 |
Fe fydd angen i ddatblygwr am y mathau canlynol
o ddatblygiad ddarparu gwybodaeth ynglyn â materion traffig fel rhan
or cais cynllunio fel y gall yr Awdurdod Cynllunio wneud penderfyniad,
mewn ymgynghoriad ar Awdurdod Priffyrdd, ar y cynnig dan sylw: |
| |
| Math o ddatblygiad |
Trothwy arwynebedd llawr gross/ nifer o unedau |
Manwerthu
|
250 m sg |
Swyddfeydd (B1) a Diwydiant (B2)
|
1,000 m sg |
Storfeydd (B8)
|
1,500 m sg |
| Preswyl (C3) |
30 unedau |
|
| |
|
| A4.3 |
Bydd yn ofynnol darparu gwybodaeth ynglyn â
faint o draffig syn defnyddior safle rwan yn ôl y math
o gerbyd a gwahanol gyfnodau; faint o draffig ragwelir fydd yn defnyddior
safle yn sgil y datblygiad yn ôl y math o gerbyd a gwahanol gyfnodau.
Bydd hyn yn fodd o weld pa gynnydd ddaw yn sgil y datblygiad. Maer
ffurflen gais am ganiatâd cynllunio yn cynnwys y cwestiynau perthnasol. |
| A4.4 |
Credir ei fod yn rhesymol i ddatblygwr ddarparu
asesiad llawn a manwl o sut allai teithiau yn ol ac ymlaen or datblygiad
effeithio ar y rhwydwaith ffyrdd a/ neu cyfleusterau cludiant cyhoeddus.
Maer tabl canlynol yn ganllaw syn nodi pryd fydd Cyngor Gwynedd
yn disgwyl gweld Asesiad Trafnidiaeth (AT) yn cael ei ddarparu fel rhan
o dystiolaeth i gefnogi cais am ganiatâd cynllunio. Er y bydd y mwyafrif
or AT gaiff ei gwneud yn ymwneud a datblygiad mawr fe all yr Awdurdod
Cynllunio ofyn am AT mewn achosion pryd fydd y datblygiad yn llai nar
trothwy, er enghraifft, pan fydd lleoliad a/ neu natur y datblygiad arfaethedig
yn neilltuol o sensitif, e.e. datblygiad fydd yn cael ei wasanaethu gan
lon gul neu pryd fydd y datblygiad yn cael ei wasanaethu gan gerbydau nwyddau
trwm. |
| A4.5 |
Gan hynny, nid ywn ymarferol i ddarparu
rheolau anhyblyg ynglyn â beth olygir gydar term ardrawiad traffig
sylweddol. Maer canllaw yma yn argymell y dylid darparu AT fel arfer
pan fydd y traffig syn mynd yn ol ac ymlaen or datblygiad yn
mynd tu hwnt i un neu fwy or trothwyon isod: |
|
- Bod traffig syn mynd a dod or datblygiad yn uwch na 10%
or llif traffig ddwy ffordd ar y ffordd cyfagos, neu
- Bod y traffig syn mynd a dod or datblygiad yn uwch na
5% or llif traffig ddwy ffordd ar y ffordd cyfagos, lle mae tagfeydd
traffig yn bodoli neun debygol o ddigwydd o fewn y cyfnod asesiad
neu mewn lleoliadau sensitif.
|
| A4.6 |
Yn ychwanegol ir uchod fe fydd yna rai
datblygiadau sydd mor sylweddol eu maint lle dylid gwneud AT yn ôl
yr arfer. Maer tabl yn dangos trothwy ar gyfer y mathau yma o ddatblygiad: |
| |
| Math o ddatblygiad |
Trothwy arwynebedd llawr gross/ nifer o unedau |
Manwerthu
|
1,000 m sg |
Swyddfeydd (B1) a Diwydiant (B2)
|
5,000 m sg |
Strfeydd (B8)
|
10,000 m sg |
| Preswyl (C3) |
150 unedau |
|
| |
|
| |
CYNLLUNIAU TEITHIO |
| A4.7 |
Yn ychwanegol i ddarparu Asesiadau Trafnidiaeth,
maer Cyngor yn awyddus i weld Cynlluniau Teithio yn cael eu paratoi.
Bydd y Cynlluniau yma yn cael eu paratoi gan gwmnïau unigol ar gyfer
gweithgareddau y cwmnïau hynny. Disgwylir iddynt gydymffurfio gyda
pholisïau cludiant lleol a chenedlaethol. Yng Ngwynedd bydd y Cyngor
yn disgwyl gweld Cynllun Teithio yn cael ei ddarparu fel rhan o dystiolaeth
i gefnogi cais cynllunio ar gyfer datblygiad lle bydd 50 neu fwy o bobl
yn cael eu cyflogi. Yng nghyswllt datblygiadau hapfasnachol, defnyddir
amod cynllunio fydd yn gofyn i feddianwyr dilynol i gyflwyno a chytuno ar
Gynllun Teithio cyn meddiannur eiddo. Ym mhob achos defnyddir amodau
cynllunio i geisio sicrhau bod unrhyw weithgaredd nodir mewn Cynllun Teithio
yn cael ei weithredu. Maer canlynol yn enghreifftiau o beth allai
ffurfio rhan o Gynllun Teithio: |
| |
- Cynnig oriau gweithio hyblyg;
- Ystyried caniatáu gweithwyr i weithio ou cartrefi;
- Darparu cyfleusterau diogel ar gyfer cadw beic;
- Darparu cyfleusterau cawod a newid i feicwyr;
- Darparu beic ar gyfer defnydd gwaith;
- Talu cyfradd milltir dda ar gyfer beicio (oi gymharu a chyfradd
y filltir mewn car);
- Benthyciadau di-log / cymhorthdal ar gyfer prynu ticedi tymor (season
ticket) cludiant cyhoeddus
- Defnyddio casgliad o geir cwmni (yn lle darparu car cwmni ar gyfer
pawb);
- Cyfyngu ar faint o lefydd parcio sydd ar gael;
- Penodi swyddog i gydlynu materion teithio
|
 |
|
 |
 |
 |
|
|