RHAN 1
 
CYFLWYNIAD
  GOSOD Y CYD-DESTUN
  Y GYFUNDREFN CYNLLUNIAU DATBLYGU
  CYD-DESTUN POLISI
  TREFNIADAU GWEITHREDU
GWYENEDD 2004
  GOSOD Y CYD-DESTUN
STRATEGAETH Y CYNLLUN
  Y STRATEGAETH OFODOL
  LLEOLI DATBLYGIAD
POLISIAU STRATEGOL
  YMAGWEDD RHAGOFALUS
  GWARCHOD YR AMGYLCHEDD YN EFFEITHIOL
  DEFNYDDIO ADNODDAU NATURIOL YN DDARBODUS
  SICRHAU CYNNYDD CYMDEITHASOL SYDD YN ADLEWYRCHU ANGHENION PAWB
  HYRWYDDO TWF PRIODOL O RAN YR ECONOMI A CHYFLOGAETH
   
 
BrigCynnwys
1.1 CYFLWYNIAD
1.1 GOSOD Y CYD-DESTUN
Cyngor Gwynedd
1.1.1 Diffiniwyd ffiniau Cyngor Gwynedd gan y Ddeddf Awdurdod Lleol (Cymru) 1994, a daeth y Cyngor i fodolaeth ym mis Ebrill 1996. Mae wedi ei leoli ar y rhan fwyaf orllewinol o Ogledd Cymru ac fe'i ffinir gan bump Cyngor Unedol sef, Ynys Môn, Conwy, Dinbych, Powys a Cheredigion.
1.1.2 Oherwydd ei leoliad daearyddol mae Gwynedd, nid yn unig yn ymylol o safbwynt ei gysylltiadau gydag Ewrop ond hefyd gyda gweddill y Deyrnas Unedig (DU). Mae rhan sylweddol o ardal y Cyngor (63%) yn disgyn o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Yn ôl Cyfrifiad 2001, 116,843 oedd poblogaeth breswyl Gwynedd. Mae'n ardal sydd â dwysedd poblogaeth gymharol isel: 46 o bobl i bob cilomedr sgwar.
1.1.3 Yn nhermau gweinyddu, rhennir Cyngor Gwynedd i dair is-ardal, sef Arfon, Dwyfor a Meirionnydd ac wedyn, i 43 cyngor cymuned.
 
Swyddogaethau Cynllunio o fewn Gwynedd
1.1.4 Yn sgîl adrefniant llywodraeth leol yng Nghymru, mae dau Awdurdod Cynllunio Lleol gyda chyfrifoldebau cynllunio statudol o fewn tiriogaeth ardal Gwynedd, sef:
Cyngor Gwynedd - sy'n gweithredu ar gyfer y rhannau hynny o ardaloedd Arfon, Dwyfor a Meirionnydd sy'n disgyn oddi allan i Barc Cenedlaethol Eryri.
Parc Cenedlaethol Eryri - sydd yn Awdurdod Cynllunio annibynnol ac yn gyfrifol am yr holl ardal o fewn ei ffiniau.
1.1.5 Gan bod dau Awdurdod Cynllunio yn gweithredu o fewn Gwynedd bydd dau Gynllun Datblygu Unedol gweithredol, sef un a fydd yn cael ei baratoi gan y Parc Cenedlaethol a’r Cynllun hwn (Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd) sydd yn weithredol o fewn ffiniau yr ardaloedd a ddangosir ar Diagram Allweddol 1.
1.1.6 Mae’r ddau awdurdod cynllunio yn cyd-weithio ar baratoad eu cynlluniau er mwyn:
  • datblygu polisïau cyson a chyfatebol;
  • sicrhau cynllunio tymor hir effeithiol a chynaliadwy;
  • optimeiddio manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
Mae Cyngor Gwynedd hefyd yn cydweithio gyda’r awdurdodau sydd yn ffinio â Gwynedd ar faterion strategol megis tai, cyflogaeth a thrafnidiaeth a.y.y.b.
 
Ardal Cynllunio Cyngor Gwynedd
1.1.7 Er fod yr ardal yn cael ei hystyried yn ymylol o ran daearyddiaeth Cymru a’r DU, fe'i cysylltir gyda gweddill Gogledd Cymru, a thu draw, gan yr A55 a lein Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Y prif gysylltiadau i’r De a’r canolbarth yw yr A5(T), A470(T), A458(T) a lein Rheilffordd Arfordir y Cambrian.
1.1.8 Mae'n ardal sy'n bennaf yn wledig ei naws, gyda thirlun amrywiol a chyfoethog. Cydnabyddir bod y tirlun a’r cynefinoedd ynghyd â'r rhywogaethau sy'n ddibynnol arnynt o werth lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
1.1.9 Mae gan y cymunedau sydd wedi tyfu o gwmpas y trefi a'r pentrefi, a leolir gan fwyaf ar hyd yr arfordir, eu cymeriad eu hunain wedi ei seilio ar y diwylliant Cymreig, y ddaearyddiaeth lleol, y cefndir hanesyddol amrywiol a'r economi lleol. Fodd bynnag, mae harddwch naturiol yr ardal yn cuddio cymunedau difreintiedig sydd wedi dioddef dirywiad economaidd yn sgîl dirwasgiad diwydiannol a'i ganlyniadau cymdeithasol dros gyfnod hir. Yn ogystal â hyn ceir cymunedau sy'n brwydro yn erbyn gwendidau sy'n gyffredin i ardaloedd gwledig ac ymylol ar hyd a lled y wlad; diffyg mewn isadeiledd, prinder cyfleon gwaith, gwasanaethau annigonol, a diffyg tai fforddiadwy.
 
Y GYFUNDREFN CYNLLUNIAU DATBLYGU
Pam fod angen Cynllun Datblygu Unedol?
1.1.10 Swyddogaeth cynllunio defnydd tir yw gosod y fframwaith ar gyfer datblygu a defnyddio tir, gan roi ystyriaeth lawn i faterion economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol ac i ystyriaethau lleol. Mae’n ddyletswydd ar bob awdurdod cynllunio yng Nghymru i baratoi Cynlluniau Datblygu Unedol dan gyfarwyddyd Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Deddf Cynllunio a Iawndal 1991.
1.1.11 Bydd Cynllun Unedol Gwynedd yn gosod fframwaith polisi ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer anghenion datblygu am y cyfnod hyd at 2016. Bydd yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor i dywys a rheoli datblygu, gan ddarparu sail ar gyfer gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio yn gyson a phriodol.
1.1.12 Atgyfnerthir pwysigrwydd y Cynllun Datblygu Unedol o fewn y broses o wneud penderfyniadau ar faterion cynllunio gan Adran 54a o Ddeddf Cynllunio a Iawndal 1991, sydd yn pwysleisio y dylai penderfyniadau rheoli datblygu gael eu gwneud yn unol â’r cynllun datblygu oni bai fod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall.
1.1.13 Bydd Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd yn:-
  • nodi’r ddarpariaeth gyffredinol ar gyfer tai a diwydiant ac yn rhoi arweiniad ar raddfa, natur a lleoliad datblygiadau'r dyfodol o fewn cyfyngiadau a chanllawiau ffisegol a chymunedol.
  • gosod y fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau ar faterion datblygu a'r defnydd a wneir o dir o fewn Ardal y Cynllun gan nodi'r ystyriaethau y bydd Cyngor Gwynedd, fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol cymwys, yn asesu wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio
  • gymorth i dywys cyfrifoldebau a phenderfyniadau buddsoddi y Cyngor, cyrff eraill, busnesau ac unigolion.
  • dod a materion cynllunio lleol a manwl gerbron y cyhoedd gan ddangos yn glir newidiadau tebygol mewn defnydd tir o fewn Gwynedd a sut y bydd y newidiadau hyn yn debygol o effeithio ar ddiddordebau penodol. Gwneir trefniadau i bobl a sefydliadau gyfranogi i’r broses o ddatblygu’r polisïau â chynigion a thrwy hynny gael dylanwad ar gynnwys y Cynllun.
Felly, bydd y Cynllun yn cynnig arweiniad ar gyfer datblygiadau newydd a hybu menter, ac yn cynnig lefel o sicrwydd i ddatblygwyr a'r cyhoedd ynglyn â datblygiadau sydd yn dderbyniol neu annerbyniol. Bydd yn fodd i sicrhau bod penderfyniadau ar geisiadau cynllunio yn cael eu gwneud mewn modd teg a chyson.
 
Oes y Cynllun
1.1.14 Dyddiad sail Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd fydd Ebrill 2001. Mae'r Cynllun yn delio gyda chyfnod o bymtheg mlynedd o'r dyddiad hwn. Fodd bynnag, rhaid adolygu ei effeithlonrwydd yn gyson a'i ddiwygio os bydd angen, er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion cymunedol sydd yn newid a sicrhau ei fod yn gyfoes.
 
Cynnwys a Ffurf
1.1.15 Mae Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd yn cynnwys polisïau a chynigion y Cyngor ar faterion yn ymwneud â defnydd tir, ac yn cynnwys eglurhad a chyfiawnhad o'r pwyslais y mae'r Cyngor wedi ei roddi i ystyriaethau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a materion perthnasol eraill.
1.1.16 Mae'r Cynllun wedi ei rannu i ddwy ran:
Rhan 1 – Hwn yw’r sylfaen strategol ar gyfer yr holl Gynllun. Mae yn cyflwyno patrwm daearyddol ar gyfer cyfeirio datblygiad o fewn ardal y Cynllun a datganiad ysgrifenedig o’r polisïau strategol sydd yn berthnasol ar gyfer holl Ardal y Cynllun. Rhain sydd yn gosod y cyd-destun a chyfeiriad ar gyfer polisïau a chynigion manwl Rhan 2. Mae hefyd yn nodi'r ddarpariaeth gyffredinol sydd i'w gwneud ar gyfer tai a chyflogaeth.
Rhan 2 – Mae hwn yn cyflwyno cyfiawnhad o'r polisïau strategol yn Rhan 1, ynghyd â pholisïau a chynigion mwy manwl yn ymwneud yn benodol gyda materion defnydd tir. Mae y rhan hwn o'r Cynllun hefyd yn cynnwys Mapiau Cynigion y Cynllun.
  Yn ogystal, bwriedir paratoi cyfres o Gyfarwyddydiadau Ategol ar gyfer rhai mathau o ddatblygiadau. Bydd y Cyfarwyddiadau Ategol hyn yn cynnig gwybodaeth a chyngor ychwanegol i ddatblygwyr ac, yn ddibynnol ar eu statws, fe allent gael eu hystyried fel 'ystyriaeth cynllunio’ wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.
1.1.17 Mae’r Cynllun wedi ei baratoi mewn ffordd gadarnhaol a all osod sylfaen gref a chynnig egni a chyfeiriad i adfywio, cynnal a hyrwyddo cymunedau cynaliadwy yng Ngwynedd.
1.1.18 Bydd y Cynllun yn ddarostyngedig i werthusiad cynaliadwyedd fel y bydd yn cael ei baratoi ac fe fydd crynodeb o’r gwerthusiad yn cael ei gynnwys gyda’r ddogfen derfynol.
 
Y broses o baratoi Cynllun Datblygu Unedol
1.1.19 Mae'r broses o baratoi a mabwysiadu Cynllun Datblygu Unedol yn golygu dilyn nifer o gamau statudol. Mae'r camau hyn yn cynnwys nifer o gyfnodau o ymgynghori gyda'r cyhoedd a gwahanol gyrff cyhoeddus a phreifat, fel bo'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan y Cynllun yn cael dweud eu barn. Mae Tabl 1 yn dangos y camau gaiff eu cymryd wrth baratoi Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd.
 
CYD-DESTUN POLISI
Datblygu Cynaliadwy
1.1.20 Mae'r cysyniad o 'ddatblygiad cynaliadwy' wedi ei sefydlu yn gonglfaen polisïau ar lefel rhyngwladol a chenedlaethol ac mae yn ganolog i feddylfryd y Cyngor wrth ddarparu gwasanaethau.
1.1.21 Diffinir Datblygu Cynaliadwy fel “datblygiad sy’n ateb anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i gyfarfod eu hanghenion hwythau”. Cydbwysedd rhwng y pedair amcan isod fydd yn arwain at ddatblygu cynaliadwy ac at wella ansawdd bywydau trigolion yr ardal.
  • gwarchod yr amgylchedd yn effeithiol;
  • defnydd darbodus o adnoddau naturiol;
  • cynnydd cymdeithasol sy’n cydnabod anghenion pawb; a
  • hyrwyddo twf priodol o ran yr economi a chyflogaeth.
1.1.22 Bydd holl bolisïau y Cynllun yn cael eu gwerthuso yng nghyd-destun yr amcanion uchod, trwy y gwerthusiad cynaliadwyedd sydd yn rhan o broses paratoi y Cynllun. Bydd yr amcanion yn cael eu defnyddio i bwyso a mesur holl ddatblygiadau newydd yn ardal y Cynllun.
1.1.23 Mae’r Cynllun yn gosod fframwaith i ymateb i’n cyfrifoldeb ni oll i gynnal, gwarchod, a phan yn bosibl, gwella'r amgylchedd yn ei gyfanrwydd. I'r perwyl hwn mae Strategaeth y Cynllun yn adlewyrchu yr ystyriaethau amgylcheddol yn ogystal â rhai cymdeithasol ac economaidd. Pan fydd datblygiad yn cael ei ganiatau, ni fydd nodweddion gwerthfawr ein cymunedau a’n diwylliant, ein hiaith, ein amgylchedd adeiledig a’n adnoddau naturiol yn cael eu aberthu ar gyfer manteision tymor byr. Rhan allweddol o gyflawni hyn fydd gwneud defnydd effeithiol o ardaloedd a ddatblygwyd eisioes a datblygu sustemau trafnidiaeth effeithiol.
1.1.24 Mae Datblygiad cynaliadwy, fel y’i nodir yn ‘Dysgu Byw yn Wahanol’ ac yn ‘Gwell Cymru’ (Cynllun Strategol y Cynulliad), yn darparu’r fframwaith a ddefnyddir gan y Cynulliad i ddatblygu strategaethau, polisïau, rhaglenni a chynlluniau grant ac yn rhoi sail i adolygiad o rai presennol. Mae’n holl bwysig cysylltu dyheadau a chamau gweithredu’r Cynulliad, awdurdodau lleol, busnesau, y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol a’r gymuned er mwyn cyflawni datblygu cynaliadwy yng Nghymru.
1.1.25 Mae ymrwymiad y Cynulliad i egwyddorion datblygu cynaliadwy yn seiliedig ar y dyletswydd o dan Adran 121 o Ddeddf Llywodraeth Cymru i hyrwyddo datblygu cynaliadwy wrth ymarfer ei swyddogaethau. Mae’r Cynulliad wedi paratoi Cynllun Datblygu Cynaliadwy sy’n nodi sut y mae’n bwriadu cyflawni a monitro y dyletswydd hwn.
 
Y cyd-destun Cenedlaethol a Rhyng-wladol
1.1.26 Rhaid i bob Cynllun Datblygu Unedol fod yn gyson gyda chyfraith a rheoliadau Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd. Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd â chyfrifoldeb dros faterion cynllunio defnydd tir yng Nghymru ac mae cyd-destun cynllunio defnydd tir y Gyfundrefn Ewropiaidd yn cael ei ymgorffori yn nogfennau cyfarwyddyd y Cynulliad. Mae cyfarwyddyd y Cynulliad yn cael ei gyflwyno yn bennaf trwy:
1. Cynlluniau Datblygu Unedol Cymru (2001) sef cyngor ynghylch paratoi cynlluniau datblygu unedol.
2. Polisi Cynllunio Cymru (2002) – mae hwn wedi eu ategu gan gyfarwyddyd technegol yn Nodiadau Cyfarwyddyd Technegol (Cymru) ac yn gosod y cyd-destun ar gyfer polisi cynllunio defnydd tir cynaliadwy.
1.1.27 Un o swyddogaethau cynllunio defnydd tir yw cefnogi holl strategaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n berthnasol i ddefnydd tir a datblygu cynaliadwy. Mae'n cyfrannu at ddatblygu economaidd, cadwraeth asedau naturiol ac adeiledig Cymru, yn ogystal â iechyd, lles ac ansawdd bywyd unigolion a chymunedau. Gall polisïau cynllunio gynorthwyo i gyflawni amcanion y Cynulliad:
  • Datblygu Cynaliadwy – cwrdd ag anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau'r dyfodol i gwrdd â'u hanghenion eu hunain
  • Adeiladu economi dynamig a datblygedig – cefnogi adfywio economaidd, creu cyfoeth a swyddi o ansawdd da
  • Mynd i'r afael â dieithrwch cymdeithasol – datblygu cymdeithas gynhwysol lle mae gan bawb gyfle i gyflawni ei llawn botensial
  • Cyfle Cyfartal – hyrwyddo diwylliant sy'n parchu amrywiaeth a lle bo cyfle cyfartal yn wirioneddol bodoli
O fewn y cyd-destun hwn y caiff Cynlluniau Datblygu Unedol awdurdodau cynllunio lleol eu paratoi, ac ar sail y Cynllun y gwneir penderfyniadau rheoli datblygu ar geisiadau ac apeliadau unigol.
 
Y cyd-destun Rhanbarthol
1.1.28 Mae'n hanfodol bod y Cynllun Datblygu yn cael ei osod yng nghyd-destun rhanbarthol Gogledd a Chanolbarth Cymru gan fod nifer o ystyriaethau defnydd tir strategol yn draws ffiniol. Mae holl awdurdodau Cynllunio Gogledd Cymru wedi cydweithio i baratoi Canllawiau Cynllunio Rhanbarthol. Mabwysiadwyd y Canllawiau yng Nghorffennaf 2001.
1.1.29 Mae’r egwyddor a nodir yng Nghanllawiau Rhanbarthol Gogledd Cymru yn anelu i hyrwyddo datblygiad cymdeithasol ac economaidd gynaliadwy, gan gynnwys amddiffyn a hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant, ei dirwedd, treftadaeth adeiledig a naturiol.
 
Cynllunio Gofodol
1.1.30 Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i baratoi Fframwaith Cynllunio Gofodol Cenedlaethol i Gymru. Yn mis Medi 2003 cyhoeddodd y Cynulliad ei ddogfen ymgynghorol drafft, ‘Pobl, Lleoedd, Dyfodol-Cynllun Gofodol Cymru. Bwriad y ddogfen yw adeiladau ar ddyletswyddau datblygu cynaliadwy y Cynulliad a gosod fframwaith ar gyfer datblygiad gofodol ar draws Cymru. Disgwylir y bydd y fersiwn terfynol o’r Cynllun yn cael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos. Unwaith caiff ei gyhoeddi yn ei ffurf terfynnol, fe fydd yn gosod cyd-destun ar gyfer llunio cynlluniau a phenderfynu gan yr awdurdodau cynllunio lleol. Tan hynny , bydd arweiniad gofodol y Cynulliad yn cael ei osod yn Polisi Cynllunio Cymru ac yn y Canllawiau Cynllunio Rhanbarthol Gogledd Cymru.
 
Hawliau Dynol
1.1.31 Daeth y Ddeddf Hawliau Dynol i rym ar 2 Hydref 2000 er mwyn ymgorffori darpariaethau’r Cytundeb Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yng nghyfraith y DU a galluogi Llysoedd y DU i orfodi’r hawliau hyn. Pwrpas cyffredinol y Cytundeb yw amddiffyn hawliau dynol a rhyddid sylfaenol, ac i gynnal a hyrwyddo delfrydau a gwerthoedd cymdeithas ddemocrataidd. Mae’n nodi hawliau sylfaenol pob unigolyn ynghyd â’r cyfyngiadau a roddir ar yr hawliau hyn er mwyn amddiffyn hawliau pobl eraill a rhai’r gymuned ehangach. Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn ei gwneud yn anghyfreithlon i awdurdod cyhoeddus weithredu’n anghyson â’r hawliau yn y Cytundeb Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ac eithrio lle na allasai fod wedi gweithredu’n wahanol o ganlyniad i ddeddfwriaeth sylfaenol.
 
TREFNIADAU GWEITHREDU
Perthynas gyda chynlluniau datblygu presennol
1.1.32 Bydd y Cynllun Datblygu Unedol yn dod yn weithredol ar y dyddiad y caiff ei fabwysiadu. Hyd y bydd wedi ei fabwysiadu, y Cynllun Fframwaith a Chynlluniau Lleol sydd wedi eu mabwysiadu fydd yn parhau i fod yn weithredol o fewn Gwynedd. Serch hynny, fe ellir rhoi mwy o bwyslais ar bolisïau y Cynllun Datblygu Unedol fel y bydd yn mynd trwy’r drefn weithredol statudol tuag at ei fabwysiadu. Unwaith y bydd y Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd wedi ei gwblhau a'i fabwysiadu, fe fydd yn disodli y Cynlluniau Datblygu a'r Cyfarwyddiadau Cynllunio Atodol cyfredol, sef:
CYNLLUN DATBLYGU STATWS
Cynllun Lleol Porthmadog/ Ffestiniog Mabwysiadwyd 1979
Cynllun Lleol Dyffryn Ardudwy Mabwysiadwyd 1983
Cynllun Lleol Afon Menai Mabwysiadwyd 1987
Cynllun Lleol Arfon Wledig Mabwysiadwyd 1992
Cynllun Fframwaith Gwynedd Mabwysiadwyd 1993
Cynllun Lleol Dwyfor Mabwysiadwyd 1998
Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol – Mwynau Mawrth 1996
Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol – Telathrebu Rhagfyr 1996
   
Perthynas gyda strategaethau a chynlluniau eraill y Cyngor
1.1.33 Mae materion Cynllunio a Datblygu Cynaliadwy yn ystyriaethau pwysig yn narpariaeth holl wasanaethau llywodraeth leol. Sail y strategaeth defnydd tir o fewn y Cynllun yw’r amcanion a gyflwynir yn Nghynllun Corfforaethol Cyngor Gwynedd sef:-
  • v Darparu gwasanaethau o ansawdd orau bosibl o fewn adnoddau sydd ar gael yn unol â dyheadau’r bobl.
  • Cynyddu cyfleon cyflogaeth trwy gefnogi mesurau i gryfhau’r economi a sicrhau addysg a hyfforddiant effeithiol i alluogi trigolion i fanteisio ar y swyddi a grëir.
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb, lleihau amddifadedd a thlodi a sicrhau gofal a gwarchodaeth i’r dinasyddion anghenus a diamddiffyn.
  • Datblygu cymunedau diogel a chynaliadwy yn y wlad a’r dref drwy gefnogi darpariaethau cymunedol a gwella amgylchiadau byw.
  • Gwarchod a gwella amgylchedd naturiol ac adeiledig y Sir a chyfrannu tuag at ddiogelu’r amgylchedd byd eang.
  • Gwarchod treftadaeth ddiwylliannol y Sir gan hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn holl weithgareddau’r Cyngor a thrwy’r ardal yn gyffredinol.
1.1.34 Bydd y Cynllun Datblygu Unedol yn un o gyfres o strategaethau a chynlluniau a baratoir i ymdrechu i gyflawni prif amcanion y Cyngor: Bydd Cyngor Gwynedd yn sicrhau fod polisïau a chynigion y Cynllun Datblygu Unedol yn rhoi cyfarwyddyd a dylanwadu ar ddarpariaeth holl wasanaethau y Cyngor. Bydd perthynas glos iawn rhwng y Cynllun Datblygu Unedol a’r Strategaeth Cymunedol sy’n gynllun statudol sy’n rhaid i’r Cyngor ei baratoi. Bydd angen sicrhau cysondeb a chydweithio rhwng y ddau gynllun i gyrraedd eu hamcanion penodol.
1.1.35 Yn ychwanegol i’r Cynllun Cymunedol bydd perthynas agos iawn rhwng y Cynllun Datblygu Unedol a’r:
Cynlluniau Gwasanaeth Cyfadrannol Asesiad Tirlun LANDMAP
Cynllun Trafnidiaeth Lleol Natur Gwynedd - Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol
Strategaeth Datblygu Economaidd Cynllun Rheolaeth AHNE Ll_n
Strategaethau Adfywio Ardaloedd Cynllun Cludiant Cyhoeddus
Rhaglen Amcan 1 Gwynedd Strategaeth Beicio
Strategaeth Gwrth Dlodi ac Amddifadedd Strategaeth Cyfle Cyfartal
Strategaeth Amgylcheddol Strategaeth a Chynllun Gweithredu Tai
   
Gwerthusiad Cynaliadwyedd
1.1.36 Hwn yw'r dull mwyaf effeithiol i sicrhau bod y Cynllun yn helpu i hwyluso datblygiad cynaliadwy. I sicrhau fod y Cynllun yn cael ei werthuso yn llawn, fe gaiff ei werthuso’n drefnus mewn dull sy’n cyd-fynd ag egwyddorion a meini prawf safonol ar adegau priodol yn ei ddatblygiad. Fe seilir hyn ar gyfarwyddyd ymarfer da a gyhoeddwyd gan y Cynulliad. Bydd y gwerthusiad cynaliadwyedd yn fodd i ddarganfod unrhyw wrthdaro rhwng polisïau /cynigion y Cynllun ac amcanion cynaliadwy. Caiff crynodeb o fanylion y gwerthusiad ei gyhoeddi fel adroddiad atodol i’r Cynllun.
 
Monitro ac Adolygu
1.1.37 Unwaith y bydd y Cynllun wedi ei fabwysiadu gan y Cyngor bydd raid ei adolygu'n gyson er sicrhau ei fod yn ymateb i anghenion y cymunedau. Bydd dangosyddion i asesu cynnydd yng ngweithredu’r Cynllun yn cael eu datblygu law yn llaw â pharatoad Rhan 2 o’r Cynllun ac fe wneir hyn yng nghyd-destun canlyniadau y Gwerthusiad Cynaliadwyedd. Yn ogystal bydd polisïau unigol yn cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn gadarn ac yn medru gwrthsefyll achosion apêl. Ar rai adegau fe all newidiadau mewn deddfau neu gyfarwyddyd cynllunio hefyd olygu fod angen gwneud newidiadau i'r Cynllun i sicrhau ei fod yn gyfoesol.
1.1.38 O’r herwydd mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i wneud adolygiad llawn o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd pob 5 mlynedd. Er hynny, os yw’r broses monitro yn darganfod bod angen gwneud newidiadau i gynnwys y Cynllun cyn dyddiad adolygu, yna bydd y Cyngor, yn ddibynnol ar arwyddocâd y newidiadau sydd eu hangen, yn ymgymryd ag adolygiad llawn/rhannol o’r Cynllun cyn gynted a bod cyfle ar gael.
 
Tabl 1 - Trefn baratoi Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd
   
Camau Rhagarweiniol Cam 1 - Casglu Gwybodaeth -
  (Arolwg o'r Ardal, Ymchwil, Papurau Trafod a Chyfranogiad y Cyhoedd)
(Cymerwyd y camau canlynol wrth baratoi Drafft Ymgynghorol o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd) i. Gwahodd syniadau gan aelodau lleol a chynghorau cymuned fel cynrychiolwyr yr ardal am anghenion lleol a chyfleon.
ii. Casglu gwybodaeth ac ystadegau a pharatoi cyfres o Bapurau Cefndir/ Ymchwil ar benawdau penodol.
iii. Annog a galluogi y cyhoedd i gyfranogi i ddatblygiad polisi a chynigion
 
Cam 2 - Ymgynghoriad cyn Cyhoeddi Cynllun Drafft i’w archwilio -
(wedi ystyried yr opsiynau penderfynodd y Cyngor ar gyfer y canlynol):
i. Gwahodd sylwadau anffurfiol ar Ddrafft Ymgynghorol o’r Cynllun gan gyrff penodol a'r cyhoedd. Bydd y Cyngor yn ystyried y sylwadau a gwneud newidiadau i’r Cynllun (os bydd angen)

Camau Statudol Cam 3 - Cyhoeddi Cynllun Drafft i'w Archwilio.
(Rhaid i’r Awdurdod Cynllunio ymgymryd â’r camau yma i gydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau cynllunio cenedlaethol) i. Gosod y Cynllun ar gael i'w archwilio yn gyhoeddus am gyfnod penodol. Cyfle i wrthwynebu'n ffurfiol neu ddatgan cefnogaeth.
ii. Y Cyngor yn ystyried y sylwadau ac yn cynnig gwneud Newidiadau Arfaethedig i'r Cynllun (os oes angen) a'u cyhoeddi am sylwadau.
iii. Cynnal Ymchwiliad Lleol i ymdrin gyda gwrthwynebiadau heb eu datrys.
iv. Yr Arolygydd yn cyhoeddi ei Adroddiad yn dilyn Ymchwiliad Cyhoeddus a’r Cyngor yn ystyried ei Adroddiad
 
Cam 4 - Cyhoeddi Diwygiadau Arfaethedig i'r Cynllun (os oes angen)
i. Gosod y diwygiadau ar gael i'w archwilio yn gyhoeddus. Cyfle pellach i wrthwynebu'n ffurfiol neu ddatgan cefnogaeth i'r diwygiadau.
ii. Y Cyngor yn ystyried y sylwadau.
 
Cam 5 - Mabwysiadu'r Cynllun
Rhybudd o fwriad i fabwysiadu'r Cynllun.
 
BrigCynnwys
1.2 GWYNEDD 2004
GOSOD Y CYD-DESTUN
1.2.1 Mae cymunedau Gwynedd wedi tyfu o gwmpas y trefi a'r pentrefi, sydd wedi eu lleoli gan fwyaf ar hyd yr arfordir ac yn yr ardaloedd chwarelyddol. Mae ganddynt eu cymeriad eu hunain sydd wedi ei seilio ar y diwylliant Cymreig, y ddaearyddiaeth lleol a’r cefndir hanesyddol amrywiol.
1.2.2 Mae harddwch naturiol yr ardal yn cuddio nifer o gymunedau difreintiedig sydd wedi dioddef oherwydd dirywiad economaidd graddol a pharhaus.
1.2.3 Yn ogystal â hyn ceir cymunedau sy'n brwydro yn erbyn gwendidau sy'n gyffredin i ardaloedd gwledig eraill ar hyd a lled y wlad; patrymau datblygu y gorffennol, diffyg isadeiledd, prinder cyfleon gwaith, gwasanaethau annigonol a diffyg tai am brisiau rhesymol.
 
Safon yr Amgylchedd
1.2.4 Mae'n ardal sy'n bennaf yn wledig ei naws gyda tirlun amrywiol a chyfoethog. Cydnabyddir bod y tirlun a’r cynefinoedd ynghyd â'r rhywogaethau sy'n ddibynnol arnynt, o werth lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae rhan sylweddol o’r Sir, 174,200 ha (63%) wedi ei ddynodi yn Barc Cenedlaethol, 15,500ha (5.6%) yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac 88 cilomedr o’r arfordir yn Arfordir Treftadaeth.
1.2.5 O ran bioamrywiaeth mae 66 o safleoedd wedi eu dynodi yn Warchodfeydd Natur Cenedlaethol neu yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o fewn ardal y Cynllun a thua 1,500 yn safleoedd o ddiddordeb cadwraeth natur (Safleoedd Bywyd Gwyllt).
1.2.6 Yn unol â Chyfarwyddyd Ewropeaidd ar gyfer adar a chynefinoedd mae un Ardal Gwarchodaeth Arbennig wedi ei dynodi a phump fel darpar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Mae tri o’r darpar safleoedd hyn yn rhai morwrol gyda’r ardaloedd, sef Pen Ll_n a’r Sarnau, Aber Menai ac Afon Menai yn cynnwys dros 90% o arfordir a dyfroedd arfordirol Gwynedd.
1.2.7 Mae 2235 o adeiladau rhestredig a 40 o ardaloedd cadwraeth o fewn ardal y Cynllun. Mae canran uchel o’r Sir wedi ei ddynodi’n dirlun o ddiddordeb hanesyddol arbennig ac mae 211 o Safleoedd Henebion Cofrestredig o fewn ardal y Cynllun.
1.2.8 Mae tirlun y Sir wedi cael ei asesu trwy ddefnyddio proses LANDMAP. ‘Roedd yr ymarferiad i sefydlu barn y cyhoedd oedd yn rhan o’r broses yma, yn dangos yn glir fod yr amgylchedd yn bwysig iawn yn eu golwg a hynny ar gyfer safleoedd gyda dynodiad cenedlaethol neu rhai o werth lleol. ‘Roedd yr ymarferiad yn dangos dymuniad y trigolion lleol i warchod amrywiaeth amgylcheddol yn y Sir.
1.2.9 Ar y cyfan nid yw llygredd amgylcheddol yn broblem yng Ngwynedd. Fel yn ardaloedd gwledig gorllewinol eraill mae safon aer a d_r yn gymharol uchel gan na greir llawer o lygredd o fewn Gwynedd. Fodd bynnag, mae llygredd byd eang yn cyfrannu at broblemau megis glaw asid ac mae y potensial o lygredd ymbelydrol yn ystyriaeth bwysig i’w chadw mewn cof.
1.2.10 Mae gan Gwynedd lawer o adnoddau naturiol sydd yn deillio o ffynonellau adnewyddol. Mae’r coedwigoedd, afonydd, llif llanw a cerrynt arfordirol yn enghreifftiau o hyn. Yn ogystal mae lleoliad a natur y tirwedd yn cyfrannu at botensial ar gyfer defnyddio ynni gwynt.
1.2.11 Mae safon yr amgylchedd yn bwysig i les economi Gwynedd. Mae’r prydferthwch a chymeriad yr ardal a’i hamgylchedd iach yn atyniadol i ymwelwyr ac i ddenu buddsoddiad. Mae’r rhinweddau naturiol yma hefyd yn tueddu i ddenu mewnfudwyr, sydd, dros amser, wedi erydu cymreigrwydd nifer o gymunedau arfordirol a gwledig.
 
Y Boblogaeth
1.2.12 Yn 2002 ‘roedd poblogaeth Gwynedd yn 117,200, tua 4% o boblogaeth Cymru. Mae’r Sir yn ddaearyddol eang, yn ymestyn 78 cilomedr o’r gogledd (Bangor) i’r de (Aberdyfi) a 91 cilomedr o’r gorllewin (Aberdaron) i’r dwyrain (Llandderfel) gyda cyfanswm arwynebedd o 2,450 cilomedr sgwar. Mae dwysedd poblogaeth Gwynedd yn 0.46 person yr hectar, y trydydd isaf ymysg awdurdodau unedol Cymru.
1.2.13 Mae poblogaeth Gwynedd wedi cynyddu yn raddol ers 1971 oherwydd bod mewnfudo yn uwch nag allfudo ac effaith net genedigaethau llai marwolaethau. Mae hyn wedi arwain at ddiffyg cydbwysedd o fewn strwythur oed y boblogaeth yn fwy amlwg yn ne a gorllewin y Sir, lle mae’r strwythur oed yn llawer h_n nag ydyw yn y gogledd. Mae hyn yn cael effaith andwyol ar raddfeydd gweithgarwch economaidd sydd yn lleihau gallu cymunedau i greu cyfleon economaidd a chynyddu lefelau incwm.
1.2.14 Mae newidiadau demograffig a newidiadau mewn patrymau a ffordd o fyw yn dylanwadu yn gryf ar anghenion cymdeithasol ac yn enwedig ar anghenion tai. Rhaid ymgorffori y newidiadau hyn yn ein rhagolygon ar gyfer y dyfodol ac wrth gynllunio ar gyfer newidiadau sylweddol yn natur ein cymunedau.
 
Yr Iaith Gymraeg
1.2.15 Mae’r iaith a diwylliant Cymreig yn parhau yn gymharol gryf yng Ngwynedd ar hyn o bryd. Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd 69% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, sef y canran uchaf o blith awdurdodau unedol Cymru. Mae’r canran o siaradwyr Cymraeg yn amrywio rhwng cymunedau, o 88% yn ward Peblig (Caernarfon) i 28% yn Deiniol (Bangor). Dengys ymchwil fod dirywiad cyfatebol mewn siaradwyr Cymraeg wedi digwydd mewn cymunedau lle mae canran pobl sydd wedi eu geni tu allan i Gymru yn uchel.
 
Cyflogaeth
1.2.16 Yn ol Ymholiad Blynyddol Busnesau 2002 ‘roedd 42,652 o bobl yn gyflogedig o fewn ffiniau Gwynedd. Ers 1999 gwelwyd cynnydd o 7.5%, neu 2,975, o fewn y gweithlu. Dros yr un cyfnod cynyddodd cyflogaeth ar draws gogledd Cymru 2.1%, sef dros 4,800 o swyddi. Yng Ngwynedd ‘roedd 2,100 neu 70% o’r twf yma mewn cyflogaeth yn y sector gyhoeddus. Nid yw y data yma yn cynnwys data am yr hunan-gyflogedig nac amaethyddiaeth. Ar y llaw arall, yn ol Cyfrifiad 2001 mae 45,143 o breswylwyr Gwynedd yn gyflogedig neu yn hunan gyflogedig, sydd mewn cymhariaeth a chyfrifiad 1991 ond yn gynnydd o 0.1%.
1.2.17 Yn 2002 roedd 42% o swyddi yng Ngwynedd o fewn sector cyhoeddus, addysg ac iechyd gyda 28% yn y sector dosbarthu nwyddau, gwestai a bwytai. Y canrannau cyfatebol ar gyfer Cymru yw 32% a 23%. Dim ond 9% o gyflogaeth Gwynedd, o’i gymharu â 17% yng Nghymru, sydd yn y sector gweithgynhyrchu gyda 6%, o’i gymharu â 12% trwy Gymru, yn y sector twf ar gyfer bancio, gwasanaethau ariannol ac yswiriant.
1.2.18 Mae canran uchel o’r gweithwyr sydd yn preswylio yng Ngwynedd yn hunan-gyflogedig gyda 22% yn y sector yma o’i gymharu â chyfartaledd o 14% ar draws Cymru.
1.2.19 Prif broblem Gwynedd o ran cyflogaeth yw’r tuedd tuag at y sectorau sydd yn cynnig cyflogau isel. Yn 2003 ‘roedd enillion wythnosol (gros cyfartalog) yng Ngwynedd yn £368.68 - 88% o gyfartaledd Cymru ac 77% o gyfartaledd Prydain Fawr. ‘Roedd y canran o’r gweithlu oedd yn ennill llai na £250 yr wythnos yn llawer uwch yng Ngwynedd gyda’r ffigwr yn 36.1% o gymharu â 28.3% ar gyfer Cymru a 23.7% ar gyfer Prydain Fawr. Mae’r sefyllfa hon yn greiddiol i nifer o broblemau amddifadedd y Sir.
1.2.20 O ran y parthau unigol dengys y Mynegrif Amddifadedd bod 14 allan o 69 ward yng Ngwynedd yng nghwintel (20%) gwaethaf Cymru o ran amddifadedd incwm.
 
Y Gweithlu
1.2.21 Mae graddfeydd y boblogaeth sydd yn economaidd weithredol yn dangos awydd a gallu pobl i fod yn rhan o’r gweithlu. Yn 2001 ‘roedd y canran ar gyfer Gwynedd yn 60.5% o’i gymharu â 61.0% ar gyfer Cymru. O fewn y ffigwr hwn ‘roedd graddfa dynion yng Ngwynedd yn 67.9% (Cymru - 67.7%) a merched yn 53.6% (Cymru – 54.5%).
1.2.22 Y patrwm i’w nodi yma yw’r cynnydd yng ngweithgarwch merched o fewn y gweithlu â’r lleihad yng ngweithgarwch dynion. Mae’r patrwm hwn i’w weld ar draws Cymru gyfan ac i ryw raddau mae’n ganlyniad newidiadau cymdeithasol a demograffig.
1.2.23 Yn y cyfnod o Ionawr 2003 hyd at Ionawr 2004 ‘roedd cyfartaledd y gyfradd diweithdra yng Ngwynedd yn 3.0% o’i gymharu â 2.6% i Gymru. Yn 1998 ‘roedd y cyfradd diweithdra yng Ngwynedd ar gyfartaledd 2 bwynt canran yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Prydain Fawr ac yn 1.5 pwynt canran yn uwch na chyfartaledd Cymru. Yn y cyfnod o 1998 i 2004 mae’r gwahaniaethau wedi gostwng fel bod Gwynedd rhwng 1.0 a 0.5 pwynt canran yn uwch na Phrydain Fawr a Chymru.
1.2.24 Cyfanswm diweithdra yng Ngwynedd yn Hydref 2003 oedd 1,820, neu 2.7% o gymharu â 2.4% yng Nghymru a 2.4% ym Mhrydain Fawr. Yn ogystal dylid nodi fod y diffiniad a ddefnyddir ar gyfer diweithdra, yn enwedig o fewn y graddfeydd economaidd anweithredol, yn cuddio elfen o ddiweithdra o fewn y Sir. Mae ffigwr diweithdra tymor hir (dros 12 mis) yn sylweddol uwch yng Ngwynedd, 19.6% o’i gymharu â 12.8% ar gyfer Cymru. Mae 99% o’r rhai sydd yn ddiwaith ers dros 12 mis a 22.5% o’r rhai sydd yn hawlio budd-dal yng Ngwynedd dros 25 oed, graddfeydd llawer uwch na’r rhai cymharol ar draws Cymru. O’r hawlwyr hynny dros 25 oed, mae 11.7% wedi bod yn ddiwaith dros 2 flynedd, tra mae graddfa Cymru a Phrydain Fawr yn 4.4%
1.2.25 Mae diweithdra yng Ngwynedd hefyd yn amrywio o ganlyniad i natur dymhorol y diwydiant twristiaeth.
 
Economi
1.2.26 Mae Cynnyrch Gros Domestig (GDP) yn mesur allbwn economaidd ardal trwy fesur gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir o fewn yr ardal. Mae GDP yn linyn mesur allweddol ar gyfer cymharu llewyrch ardaloedd gwahanol. Yn y cyfnod 1994 - 1996 ‘roedd GDP y pen Gwynedd o dan 75% o gyfartaledd GDP yr Undeb Ewropeaidd. Y ffigwr cyfwerth ar gyfer Cymru oedd 82%.
1.2.27 Mae nifer o ffactorau, llawer ohonynt tu hwnt i reolaeth lleol, yn dylanwadu ar pa mor gystadleuol yw economi Gwynedd. Mae llewyrch yr economi genedlaethol, polisi cenedlaethol, graddfeydd llog a chystadleuaeth rhanbarthol i gyd yn dylanwadu ar economi Gwynedd. Mae hyn, yn ogystal â’i chyflwr gymharol wan ar hyn o bryd, yn ei gwneud yn anodd i gystadlu gydag ardaloedd eraill. Fodd bynnag, dylid nodi fod hyn hefyd yn arwydd o botensial a chyfleon i adfywio lleol.
1.2.28 Un sector o’r economi sydd wedi mynd drwy gyfnod cythryblus yn ddiweddar yw’r sector amaethyddol. Mae’r diwydiant wedi dioddef caledi sylweddol a lleihad yn nifer y gweithwyr yn sgil prisiau isel am gynnyrch, costau cynyddol, rheoliadau newydd a phroblemau iechyd anifeiliaid yn cynnwys clwy y gwartheg gwallgo, clwy traed a’r genau a TB. Oherwydd y problemau hyn mae llai o bobol ifanc yn mynd i’r diwydiant ac mae tueddiad i uno ffermydd a gwerthu’r tai ar wahân. Mae’r tueddiadau hyn yn cael effaith negyddol ar gymunedau gwledig cynhenid ardal y Cynllun.
 
Lleoliad Ymylol
1.2.29 Oherwydd ei leoliad daearyddol, mae y rhan fwyaf o Wynedd nid yn unig yn ymylol o safbwynt ei gysylltiadau gydag Ewrop ond hefyd gyda gweddill y DU. Mae y pellter o ganolfannau busnes poblog a safon cysylltiadau yn gallu dylanwadau yn negyddol ar benderfyniadau buddsoddi economaidd.
1.2.30 Mae rhai cymunedau o fewn Gwynedd, yn enwedig yn ardaloedd Meirionnydd a Ll_n, yn ymylol o fewn Gwynedd. Dengys y Mynegrif Amddifadedd bod 23 ward yn yr 20% gwaethaf trwy Gymru o ran amddifadedd yn ymwneud â mynediad daearyddol i wasanaethau.
1.2.31 I’r dwyrain, cysylltir Gwynedd gyda gweddill gogledd Cymru a thu hwnt, gan yr A55 a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Yr A55 a’r rheilffordd sydd yn darparu’r prif gysylltiadau gyda Ynys Môn, gyda phorthladd Caergybi yn adwy i Iwerddon. Mae’r cysylltiad gyda chanolbarth a de Cymru yn allweddol i dde Gwynedd gyda’r A470, A483 a Rheilffordd y Cambrian yn darparu y prif gysylltiadau yma. Priffyrdd strategol eraill y Sir yw’r: A487; A494: A497; A499 a’r A4212.
1.2.32 Nodwedd arall yw natur wasgaredig yr aneddleoedd. Ceir rhai canolfannau poblog ar hyd yr arfordir gyda canolfannau gwasanaeth llai a phentrefi yn fwy nodweddiadol o’r ardaloedd gwledig. Golyga hyn fod cost darparu gwasanaethau yn gymharol uwch ac yn creu sialens sylweddol i bolisïau cymdeithasol a datblygu economaidd.
1.2.33 Mae rhwystrau naturiol megis mynyddoedd, afonydd a llynnoedd hefyd yn cynyddu amseroedd teithio, gyda phellter teithio yn llawer mwy na chysylltiad ar linell unionsyth. Mae hyn yn ychwanegu’n sylweddol at gostau byw trigolion lleol ac hefyd gall hyn lesteirio mewnfuddsoddiad.
 
Cartrefi
1.2.34 Mae Mynegai Amddifadedd Cymru 2000 yn dangos bod 35 o’r 69 ward yng Ngwynedd yn yr 20% gwaethaf trwy Gymru o safbwynt amddifadedd tai. Mae dylanwad y chwyldro diwydiannol yn greiddiol i hyn gan ein bod wedi etifeddu tai sydd yn anaddas ar gyfer anghenion heddiw. Mae 47% o’r stoc dai yng Ngwynedd wedi eu hadeiladu cyn 1919, y trydydd ffigwr uchaf o fewn awdurdodau unedol Cymru. Dim ond 22.7% adeiladwyd ar ôl 1964, y cyfran leiaf ymysg awdurdodau unedol Cymru. Mae strwythur oed stoc tai Gwynedd yn debyg iawn i Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf.
1.2.35 Mae y farchnad dai yng Ngwynedd yn cael ei gyrru gan ffactorau allanol ac o ganlyniad nid yw prisiau tai yn adlewyrchu cryfder yr economi leol. O ystyried prisiau tai yn yr ardal a’r lefel cyflogau, mae’n amlwg fod rhai pobol, pobol ifanc yn bennaf, yn cael trafferth i brynu neu rentu cartrefi iddynt eu hunain. Mae pobl leol yn gorfod cystadlu am y tai sydd ar gael gyda phobl o ardaloedd cyfoethocach sydd eisiau symud i mewn i’r ardal. Effaith hyn yw fod prisiau tai yn cynyddu ac fod nifer gynyddol o stoc dai yr ardal yn mynd allan o gyrraedd ariannol pobl leol. Mae’r sefyllfa yma yn fwy amlwg mewn ardaloedd arfordirol a gwledig.
 
BrigCynnwys
1.3 STRATEGAETH Y CYNLLUN
1.3.1 Prif Strategaeth y Cynllun Datblygu Unedol yw:-
Darparu fframwaith ar gyfer creu a chynnal cymunedau cynaliadwy
 
Cymunedau Cynaliadwy
1.3.2 Diffinir cymunedau cynaliadwy fel : ‘Cymunedau lle mae amodau teg i bobl gael byw a gweithio ynddynt. Mae hyn yn golygu cydbwyso ac integreiddio’r angen i warchod buddiannau’r iaith Gymraeg, gofalu a gwneud defnydd gorau o adnoddau amgylcheddol, annog datblygiad cymdeithasau cynhwysol a chefnogi adfywio economaidd.’
1.3.3 Bydd y cysyniad o feithrin cymunedau cynaliadwy yn elfen ganolog o'r Cynllun Datblygu Unedol ac yn treiddio trwy ei holl bolisïau. Bydd y Cynllun yn anelu at wella ansawdd bywyd trigolion y Sir ac i gael y cymysgedd priodol o ddefnydd tir i wneud cymunedau Gwynedd yn gymunedau cynaliadwy. Yn ogystal, ymgeisir i alluogi trigolion Gwynedd i gyfrannu tuag at ddyletswyddau cenedlaethol a rhyngwladol i warchod iechyd y byd.
1.3.4 Anelir i gyrraedd y nod o greu cymunedau cynaliadwy drwy’r amcanion isod:-
  • Gwarchod yr amgylchedd yn effeithiol
  • Defnyddio adnoddau naturiol yn ddarbodus
  • Sicrhau cynnydd cymdeithasol sydd yn adlewyrchu anghenion pawb
  • Hyrwyddo twf priodol o ran yr economi a chyflogaeth
Y STRATEGAETH OFODOL
1.3.5 Dau o swyddogaethau pwysig y Cynllun Datblygu Unedol yw arwain a chyfeirio datblygiadau newydd o fewn Ardal y Cynllun ac ymdrin a sefyllfaoedd ac amgylchiadau sydd eisioes mewn bodolaeth ac a all gael dylanwad ar ddyfodol Gwynedd.
1.3.6 Mae gwahaniaeth mawr rhwng aneddleoedd ardal y Cynllun a’i gilydd. Mae rhai o gymeriad sefydlog a chadarn, tra mae eraill dan fygythiad neu yn dirywio oherwydd diffyg buddsoddiad, sydd yn arwain at ddiffyg gwasanaethau a dirywiad yn yr amgylchedd a chyflwr adeiladau. Rhaid ystyried dyfodol yr anheddleoedd yma yng ngoleuni eu sefyllfa bresennol a hanes diweddar.
1.3.7 Mae rhai anheddleoedd, yn enwedig y rhai o fewn cyrraedd hwylus i’r canolfannau trefol, wedi datblygu yn sylweddol yn ddiweddar. Mewn rhai achosion mae’r datblygiad wedi bod ar draul anheddleoedd eraill, sydd wedi dirywio gan golli poblogaeth, cyfleusterau a gwasanaethau.
1.3.8 Trwy’r Cynllun Unedol mae’r Cyngor yn anelu i reoli’r tueddiadau hyn trwy gyfyngu ar ddatblygu mewn anheddleoedd sydd wedi datblygu yn sylweddol yn ddiweddar tra yn darparu mwy o gyfleon mewn anheddleoedd eraill sydd wedi dioddef dirywiad. Mae’r gweithredu fel hyn yn anelu i gynnal, gwarchod ac adfywio cymunedau cynhenid.
1.3.9 Mae anheddleoedd arfordirol yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr a rhai sydd wedi ymddeol ac meant wedi derbyn datblygiad hapfasnachol sylweddol. Mae hyn wedi arwain at broblemau cymdeithasol a ffisegol sylweddol, megis canran uchel o ail gartrefi, effaith negyddol ar y gymdeithas gynhenid, problemau carthffosiaeth a.y.y.b. Nid yw’r Cyngor am weld y sefyllfa hon yn parhau yn ddi-reolaeth oherwydd anghysondeb gydag egwyddorion datblygu cynaliadwy. Yn yr anheddleoedd hyn, cyfyngir ar y cyfleon i ddatblygu.
1.3.10 I geisio ymateb i’r materion yma, mae y Cynllun Datblygu Unedol, ynghyd a cynlluniau a strategaethau eraill y Cyngor, yn anelu i ddarparu amgylchiadau i hwyluso datblygiad economaidd a darparu ar gyfer tai. Bydd graddfa datblygu yn yr anheddleoedd, yn enwedig y cynigion ar gyfer tai a thir diwydiannol yn dibynnu hefyd ar egwyddorion datblygu cynaliadwy gyda phwyslais arbennig ar rwydwaith trafnidiaeth a chyfathrebu integreiddiedig.
1.3.11 Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, ac er cyd-fynd â’r nod o greu cymunedau cynaliadwy, mabwysiadwyd strategaeth ofodol a fydd yn sail ar gyfer polisïau a chynigion y Cynllun.
1.3.12 Sefydlwyd wyth o Ddalgylchoedd Dibyniaeth (DD) fel sail i strategaeth ofodol ar gyfer cyfeirio datblygiad ac ymateb i faterion ag amgylchiadau sydd yn bodoli eisioes. Seliwyd y dalgylchoedd ar batrwm defnydd y cymunedau o’r canolfannau gwasanaeth, ar y rhwydwaith trafnidiaeth o fewn y Sir a’r cysylltiadau â gweddill Cymru a Phrydain. Dangosir yr wyth dalgylch ar Ddiagram Allweddol Map 2.
1.3.13 Nid yw’r Dalgylchoedd wedi eu selio ar ffiniau gweinyddol o fewn y Sir ac maent wedi cymryd i ystyriaeth ffactorau cynllunio ynghyd â gwasanaethau a chyfleusterau a ddarperir tu hwnt i ffin ardal y Cynllun hwn.
1.3.14 Trwy roi ystyriaeth i gryfderau, gwendidau, y cyfleon a’r bygythiadau sydd yn wynebu’r Dalgylchoedd Dibyniaeth a’r aneddleoedd unigol o fewn iddynt, mae’r Cynllun yn cydnabod yr anghenion gwahanol o fewn y dalgylchoedd hyn ac yn ymdrechu i’w diwallu.
1.3.15 Mae'r Cynllun yn cyflwyno polisïau a chynigion sydd yn anelu i ymateb i anghenion dalgylchoedd dibyniaeth a’r cymunedau oddi mewn iddynt.
1.3.16 Anelir hefyd i greu fframwaith ar gyfer darpariaeth briodol o swyddi, gwasanaethau, cyfleusterau a chyfleon datblygu er lleihau amddifadedd, cynnal cymunedau cynaliadwy a sicrhau defnydd priodol o diroedd o fewn y dalgylchoedd dibyniaeth.
1.3.17 Er hwyluso asesiad llawn o’r Sir, mae’r dalgylchoedd dibyniaeth yn cynnwys yr ardaloedd hynny o Wynedd sydd o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri. Fodd bynnag, rhaid pwysleisio nad yw CDU Gwynedd yn rhoi arweiniad i ddatblygiad o fewn y rhannau hynny o’r Sir sydd o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri.
1.3.18 Mae pwysau datblygu, argaeledd safleoedd addas, awydd y sector breifat i fuddsoddi, safon a sensitifrwydd yr amgylchedd ynghyd â rhwydweithiau ac is-adeiledd ar gyfer trafnidiaeth a gwasanaethau yn amrywio yn sylweddol ar draws y Sir. Mae’n amrywio rhwng y Dalgylchoedd Dibyniaeth yn ogystal a rhwng cymunedau o fewn pob Dalgylch Dibyniaeth unigol. Cyflwynir strategaeth y Cyngor ar gyfer cyfeirio datblygiad yn y Dalgylchoedd Dibyniaeth yn y rhan canlynol.
 
Dalgylchoedd Dibyniaeth Bangor a Chaernarfon
1.3.19 Mae potensial cynnydd economaidd o fewn Dalgylchoedd Bangor a Chaernarfon yn uwch na gweddill Gwynedd a hynny yn bennaf yn deillio o’r cysylltiadau trafnidiaeth, maint y boblogaeth a chysylltiadau gyda sefydliadau iechyd ac addysg. Mae buddsoddiad cyhoeddus a phreifat dros y blynyddoedd diwethaf wedi cyfrannu at y potensial yma i atgyfnerthu a datblygu’r economi.
1.3.20 Mae gan y dalgylchoedd gysylltiadau da gyda gweddill y DU ac Iwerddon trwy’r A55 a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae lleoliad a rôl Bangor, ac i raddau llai Caernarfon fel adwyon i weddill Gwynedd ac i Barc Cenedlaethol Eryri yn rhan bwysig o strategaeth y Cynllun hwn.
1.3.21 Mae ymrwymiad a buddsoddiad mewn system drafnidiaeth rhanbarthol integreiddiedig ac effeithiol, sydd yn gwasanaethu ardaloedd gwledig a threfol, yn allweddol i ffyniant Dalgylch Dibyniaeth Bangor a Chaernarfon ac i weddill gogledd y Sir ac Ynys Môn. Mae Strategaeth Datblygu Economaidd Gwynedd a’r Cynllun Trafnidiaeth Lleol yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau da i ddatblygiad economaidd, ac mae hyn yn ffurfio rhan o fframwaith datblygu y Cynllun hwn.
1.3.22 Mae rol Bangor fel canolfan addysg uwch yn factor bwysig ym mhotensial a gallu’r Ddinas i dderbyn twf. Mae rol Caernarfon wedi ei seilio ar y sector gyhoeddus a thwristiaeth. Gall y canolfanau gwasanaeth, fel ffocws buddsoddiad a datblygiad economaidd, fod o fudd i ardaloedd llai breintiedig yn rhannau gwledig ac ol-ddiwydiannol y Dalgychoedd Dibyniaeth.
1.3.23 Mae canran uchel o diroedd llwyd ardal y Cynllun o fewn Dalgylchoedd Dibyniaeth Bangor a Chaernarfon. Mae’r Cynllun yn rhoi pwyslais ar wneud defnydd llawn o adeiladau a thiroedd llwyd o fewn y ddau brif ganolfan gwasanaeth ac yn holl anheddleoedd yn yr ardaloedd ol-ddiwydiannol chwarelyddol.
1.3.24 Y prif ystyriaethau amgylcheddol yn Nalgylchoedd dibyniaeth Bangor a Chaernarfon fydd sicrhau na fydd datblygiad yn cael effaith andwyol ar fwynderau gweledol na bioamrywiaeth yn ardal Afon Menai. Yn ogystal, bydd pwyslais ar ddiogelu mwynderau gweledol tuag at, oddiwrth ac ar hyd ymylon Parc Cenedlaethol Eryri ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn ac Arfordir Môn.
1.3.25 Nod y Cynllun o fewn Dalgylchoedd Dibyniaeth Bangor a Chaernarfon :
  • Hyrwyddo statws Bangor fel canolfan is-ranbarthol, Caernarfon fel canolfan drefol a Bethesda, Llanberis a Phenygroes fel canolfannau lleol.
  • Hyrwyddo datblygiad economaidd all fod o fudd i ddalgylchoedd eraill yn ne a gorllewin y Sir.
  • Optimeiddio rôl Bangor a Chaernarfon fel adwyon pwysig i weddill Gwynedd ac i Barc Cenedlaethol Eryri gyda pwyslais ar drafnidiaeth cyhoeddus a’r rhwydwaith beicio.
  • Dynodi tir ar gyfer twf ym Mangor a Chaernarfon i’w galluogi i gyrraedd eu potensial mewn modd cynaliadwy.
  • Dynodi tir ar gyfer 782 o gartrefi yn nalgylch Bangor a 580 yn nalgylch Caernarfon.
  • Dynodi a gwarchodd 78 ha o dir ar gyfer cyflogaeth yn nalgylch Bangor a 58.78 ha yn nalgylch Caernarfon.
  • Diogelu safon yr amgylchedd ar ymylon Parc Cenedlaethol Eryri ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Arfordir Môn ac o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ll_n a hyrwyddo yr amgylchedd fel sail i ddatblygiad economaidd.
  • Optimeiddio potensial tiroedd llwyd ac adeiladau o dan ddefnyddir, yn enwedig o fewn y prif ganolfannau ac anheddloeoedd ol-ddiwydiannol.
Dalgylchoedd dibyniaeth Llyn, Porthmadog, Dolgellau/ Abermaw a Tywyn/Machynlleth
1.3.26 Tra bod y cyfan o Ddalgylch Dibyniaeth Llyn o fewn ardal y Cynllun, dim ond tua 50% o arwynebedd Dalgylch Porthmadog sydd o fewn ardal CDU Gwynedd. Mae’r gweddill yn gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Dim ond anheddleoedd Abermaw a Fairbourne, yn Nalgylch Dolgellau/Abermaw, a Tywyn a Corris yn Nalgylch Tywyn/Machynlleth a’r ardaloedd o’u hamgylch sydd yn gorwedd o fewn ardal CDU Gwynedd.
1.3.27 Mae’r ardaloedd yma yn ymylol yng nghyd-destyn Cymru ac o fewn y Sir. Mae lleihau effaith bod yn ymylol yn rhan allweddol o strategaeth y Cynllun ac i hyrwyddo ffyniant yr ardaloedd hynny. Gall gwella rhwydweithiau trafnidiaeth i Bangor, canolbarth a de Cymru ac i’r dwyrian i Wrecsam a’r Amwythig mewn modd cynaliadwy ac integreiddiedig, ynghyd a lleihau yr angen i deithio gynnig potensial i ddatblygiad economaidd. Fodd bynnag, cynnal ac adfywio y cymunedau o fewn y dalgylchoedd yma fydd y prif flaenoriaeth.
1.3.28 Mae’r ardaloedd yma yn wledig ac arfordirol a nodweddir hwy gan economi amgylcheddol ac, oherwydd safon uchel yr amgylchedd, dibyniaeth ar dwristiaeth. Mae amddifadedd a lefelau isel o incwm yn nodweddion amlwg. Nid yw yn rhwydd i ddenu buddosddiad preifat i’r ardaloedd yma.
1.3.29 Mae ymchwil diweddar yn dangos mai isel yw’r nifer o dai ar werth o fewn y dalgylchoedd dibyniaeth yma sydd o fewn cyrraedd ariannol pobl ar gyflog sy’n gyfatebol i ennillion cyfartalog yng Gwynedd. Mae hyn yn creu problem fforddiadwyaeth tai i bobl leol.
1.3.30 Un o amcanion Strategaeth Datblygu Economaidd Gwynedd a’r Cynllun hwn yw rhoi blaenoriaeth uchel i adfywio cymunedau gwledig di-freintiedig. Bydd twf graddol, sy’n ategu rhaglenni buddosddiad i adfywio, cefnogi a datblygu y cymunedau yma, yn cael eu hyrwyddo gan y cynllun hwn.
1.3.31 Mae nifer o’r canolfannau trefol yn y Dalgylchoedd Dibyniaeth yma wedi meithrin cryfderau all gyfrannu at adfywiad a ffyniant pellach. Mae Pwllheli wedi ei sefydlu fel canolfan hwylio rhyngwladol, mae Porthmadog yn adwy i’r Parc Cenedlaethol ac i L_n ac mae gan y dref gysylltiad rheilffyrdd cryf. Mae’r cynllun yn gefnogol i ddatblygiadau sydd wedi ei seilio ar nodweddion y canolfannau a datblygiadau ategol eraill fydd yn darparu modd iddynt gynnal a hyrwyddo eu iechyd economaidd, amgylcheddol a chymunedol.
1.3.32 Mae safon yr amgylchedd yn dalgylchoedd yma. Bydd gwarchod bioamrywiaeth, nodweddion tirwedd yr amgylchedd adeiledig, a hyrwyddo rheolaedd arfordirol integreddiedig trwy bolisiau cryf a dyluniad da yn flaenoriaeth, yn enwedig fel sail adfywiad economaidd y dalgylchoedd yma.
1.3.33 Amcanion y Cynllun ar gyfer Dalgylchoedd Ll_n, Porthmadog, Dolgellau/Abermaw a Tywyn/Machynlleth
  • Hyrwyddo statws Pwllheli a Phorthmadog fel canolfannau trefol a Chriccieth, Penrhyndeudraeth, Abermaw, Tywyn a Nefyn fel canolfannau lleol.
  • Creu amgylchiadau ffafriol ar gyfer gweithredu rhaglenni adfywio mewn cymunedau gwledig ac arfordirol yn effeithiol.
  • Lleihau effaith ymylol eu lleoliad trwy hyrwyddo cysylltiadau a rhwydweithiau trafndiaeth integreddiedig.
  • Hyrwyddo twf graddol sydd yn ategu rhaglenni buddsoddiad anelwyd at gynnal a datblygu cymunedau.
  • Hyrwyddo datblygiad sy’n galluogi ardaloedd ymylol i fanteisio ar dwf yn nalgylchoedd Bangor a Chaernarfon.
  • Dynodi tir ar gyfer 181 o gartrefi yn Nalgych Dibyniaeth Ll_n a 82 o gartrefi yn Nalgylch Porthmadog.
  • Darparu mecanwaith o fewn y system gynllunio i sicrhau lefel digonol o dai fforddiadwy.
  • Dynodi a diogelu 25.49 ha o dir ar gyfer cyflogaeth yn Nalgylch Ll_n, 37.86 ha yn nalgylch Porthmadog ac 8 ha yn Nalgylch Tywyn/Machynlleth.
  • Darparu fframwaith cynaliadwy i alluogi datblygiad economaidd a chreu cyflogaeth o fewn cymunedau gwledig ac arfordirol.
  • Gwarchod a hyrwyddo yr amgylchedd a rhinweddau naturiol fel sail i adfywiad economaidd.
  • Gwarchod safon amgylchedd ymylon Parc Cenedlaethol Eryri ac o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ll_n.
Dalgylch Dibyniaeth Ffestiniog
1.3.34 Tra yn llai ymylol na’r dalgylchoedd gorllewinol mae Dalgylch Ffestiniog yn arddangos nifer o nodweddion tebyg, yn enwedig o ran gwendidau economiadd.
1.3.35 Mae’r rhan o Dalgylch Dibyniaeth Ffestiniog sydd o fewn ardal CDU Gwynedd yn ol-ddiwydianol ei chymeriad ac mae ei chryfderau a gwendiadau yn ganlyniad uniongyrchol i hyn. Nodweddir y Dalgylch gan olion hanesyddol y diwylliant chwarelyddol. Nodweddir canolfan drefol Ffestiniog gan dai teras a dirywiad yn safon yr amgylchedd. Mae poblogaeth y dref, llai na hanner y nifer pan oedd y dref yn fwyaf ddiwydiannol llewyrchus. Er fod yr ardal wedi dioddef dirywiad economaidd graddol ers bron i ganrif, fe all allforio gwastraff llechi, fel agregau eilradd gyfrannu i ail-adeiladu ei economi.
1.3.36 Mae’r cysylltiadau trafnidaieth rheilffyrdd a ffyrdd i’r dwyrain yn darpru cyfleon ond maent angen eu gwella os am adfywio economi’r Dalylch. Mae amddifaoedd economaidd o lefelau incwm isel yn fater penodol ac nid yw yn hawdd denu buddsoddiad preifat i’r Dalgylch Dibyniaeth. Mae adfywio y Cymunedau o fewn y Dalgylch yn flaenoriaeth. Gall leihau yr angen I deithio hefyd ddarparu rhyw gymorth o botensial a budd economiadd.
1.3.37 Nodweddir yr ardal gan ddwysedd uchel o dai teras o’r 19eg ganrif. Mae prisiau tai yn y Dalgylch yma yn llawer is na gweddill Gwynedd ac felly nid yw problemau fforddiadwyedd mor ddwys.
1.3.38 Amcanion y Cynllun ar gyfer Dalgylch Dibyniaeth Ffestiniog:
  • Hywrwyddo statws Blaenau Ffestiniog fel canolfan drefol.
  • Darparu fframwaith cynalwadwy ac amgylchiadau ffafriol i weithredu rhaglenni adfywio ar gyfer cymuned ol-ddiwydiannol.
  • Hyrwyddo a gwella cysylltiadau trafnidiaeth a chyfleon i optimeiddio defnydd darbodus o adnoddau naturiol.
  • Dynodi tir ar gyfer 68 o gartrefi
  • Hyrwyddo cynnydd yn y canran o dai newydd addas ar gyfer anghenion modern.
  • Dynodi a diogelu 9.84 ha o dir ar gyfer cyflogaeth.
  • Optimeiddio y defnydd o diroedd llwyd ac adeiladau a dan ddefnyddir o fewn Blaenau Ffestiniog.
  • Diolgelu safon yr amgylchedd ar ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri a hyrwyddo’r amgylchedd a rhinweddau naturiol fel sail i adfywiad economaidd.
Dalgylch Dibyniaeth Bala
1.3.39 Dim ond y rhan o’r Dalgylch sy’n gorwedd i’r dwyrain o Bala, yn cynnwys ward a phentref Llandderfel sydd o fewn ardal CDU Gwynedd. Mae gan yr ardal gysylltiadau da gyda tref Bala ac i’r dwyrain tuag at Wrecsam.
1.3.40 Nodweddir yr ardal wledig yma gan economi amaethyddol ac amgylchedd o safon uchel. Ystyrir gwarchod bioamrywiaeth, nodweddion tiwredd a’r amgylchedd adeiledig trwy bolisiau cadarn a dyluniad da yn flaenoriaeth, yn enwedig fel sail i adfywio’r economi.
1.3.41 Mae’r cynllun hwn yn rhoi blaenoriaeth uchel i adfywio cymunedau gwledig. Bydd twf graddol, sy’n ategu rhaglenni buddsoddi i adfywio, cefnogi a datblygu y cymunedau yma yn cael ei alluogi a’i hyrwyddo gan y cynllun hwn.
1.3.42 Amcanion y Cynllun ar gyfer Dalgylch Dibyniaeth Bala:
  • Darparu fframwaith cynaladwy i hyrwyddo twf economaith a chreu cyflogaeth o fewn cymunedau gwledig.
  • Creu amgylchiadau ffarfuiol ar gyfer gweithredu rhaglenni adfywio ar gyfer cymunedau gwledig yn effeithiol.
  • Darparu mecanwaith o fewn y system cynllunio i sicrhau lefel ddigonol o dai fforddiadwy.
  • Gwarchod safon yn amgylchedd ar ymylon Parc Cenedlaethol Eryri a hyrwyddo yr amgylchedd a rhinweddau naturiol fel sail i adfywio economaidd.
LLEOLI DATBLYGIAD
  Egwyddorion cyffredinol
1.3.43 Yr egwyddorion a ddefnyddwyd i lywio lleoliad datblygiada ar lefel strategol ar draws ardal y Cynllun ac o fewn pob Dalgylch Dibyniaeth yw:
  • Cynnal, gwarchod a gwella’r amgylchedd
  • Anelu i integreiddio datblygiad a defnydd tir gyda’r systemau trafnidiaeth amrywiol
  • Rhoi blaenoriaeth uchel i ail-ddefnyddio adeiladau a thir llwyd ac i ail-ddatblygu
  • Gwarchod hunaniaeth a chymeriad cynhenid y cymunedau
1.3.44 Dylid diwallu anghenion am gartrefi, gwaith, nwyddau a gwasanaethau mor lleol â phosibl er cael cymunedau sydd yn wirioneddol gynaliadwy a lleihau’r angen i deithio. Bydd hyn yn gymorth i alluogi pobl i aros yn eu cymunedau. Felly bydd y Cynllun yn cefnogi datblygiadau fydd yn fodd i wneud cymunedau ac ardaloedd yn fwy hunangynhaliol.
1.3.45 Mae adfywio trefol a gwledig a thaclo amddifadedd yn themau craidd yn y Cynllun. Felly, rhaid i’r polisïau a’r cynigion dargedu anghenion a gwir broblemau. Golyga hyn y bydd gwahaniaeth pwyslais yn y modd y bydd y Cynllun yn ymdrin â threfi a phentrefi yr ardal. Bydd datblygiad yn cael ei gyfyngu mewn rhai lleoliadau fel rhan o’r strategaeth i adfywio a chynnal cymunedau mewn ardaloedd eraill.
 
Ffiniau Datblygu
1.3.46 Mae ffiniau datblygu wedi cael eu dynodi ar gyfer trefi a phentrefi yr ardal. Pwrpas y ffiniau yw cyfyngu datblygu i safleoedd oddi mewn i aneddleoedd er mwyn cadw trefn ar ddatblygu a gwarchod cefn gwlad. Mae mwy o fanylion am ffiniau datblygu wedi eu cynnwys yn y bennod ar dai.
1.3.47 Mae’r Cynllun yn anelu i leoli y rhan fwyaf o ddatblygiadau ar safleoedd oddi mewn i ffiniau aneddleoedd. Rhai o’r ystyriaethau pwysicaf wrth gyfeirio datblygiadau newydd fydd eu heffaith ar yr amgylchedd ac ar y gymuned leol. Trwy Wynedd gyfan mae cyfoeth o dirluniau arbennig a safleoedd o ddiddordeb o ran bio-amrywiaeth. Mae y wybodaeth o fas-data LANDMAP a Natur Gwynedd, y Cynllun Bio-amrywiaeth Lleol, ynghyd â gwybodaeth am natur y cymunedau yn allweddol wrth fesur gallu ardaloedd i gartrefu datblygiadau penodol. Oherwydd safon yr amgylchedd a’r arweiniad a geir yn y canllawiau cenedlaethol bydd cyfyngu ar ddatblygu tu hwnt i’r ffiniau.
   
Canolfannau Gwasanaeth,
1.3.48 Bwriad y Cynllun yw dosbarthu datblygiad i’r anheddleoedd yn unol â’u statws â’u rôl fel canolfannau gwasanaeth, pentrefi neu bentrefi gwledig. Bydd cymeriad a hunaniaeth yr anheddle, y sefyllfa economaidd a natur yr amgylchedd yn ystyriaethau pwysig wrth benderfynu graddfa datblygiadau newydd i’w ganiatau.
1.3.49 Bydd mwyafrif o dai newydd a datblygiad cyflogaeth yn ystod oes y Cynllun yn cael ei gyfeirio yn y canolfannau gwasanaeth, sef y ganolfan is-ranbarthol, canolfannau trefol a chanolfannau lleol. Dyma’r anheddleoedd gyda’r is-adeiledd cryfaf a chysylltiadau trafnidiaeth gorau yn yr ardal.
1.3.50 Mae y canolfannau gwasanaeth o fewn yr wyth dalgylch yn amrywio mewn maint ac yn ôl yr ystod o wasanaethau a chyfleusterau a ddarperir oddi mewn iddynt. Mae llewyrch y canolfannau hyn yn dibynnu yn helaeth ar lewyrch eu dalgylchoedd dibyniaeth.
1.3.51 Dinas Bangor yw’r unig ganolfan Is-ranbarthol sydd yng Ngwynedd. Mae yn darparu ystod o wasanaethau megis trafnidiaeth, iechyd a manwerthu ar gyfer y cyfan o ogledd orllewin Cymru. Gwasanaethir rhai o gymunedau dwyreiniol a deheuol y Sir gan ganolfannau is-rhanbarthol Llandudno, Wrecsam ac Aberystwyth.
1.3.52 Mae gan Ganolfannau Trefol Pwllheli, Caernarfon, Porthmadog a Blaenau Ffestiniog swyddogaeth a phwysigrwydd strategol o fewn eu dalgylchoedd ac o fewn y Sir.
1.3.53 Maent yn hygyrch i weddill yr ardal a cheir darpariaeth o wasanaethau a chyfleusterau cymdeithasol eang a safon uchel o gysylltiadau cludiant cyhoeddus. Maent yn gwasanaethu ardaloedd tu hwnt i’r cymunedau cyfagos iddynt. Ynghyd â Bangor, hwy yw prif ganolfannau cyflogaeth Ardal y Cynllun.
1.3.54 Mae’r Canolfannau Lleol Bethesda, Llanberis, Penygroes, Nefyn, Penrhyndeudraeth, Criccieth, Abermaw a Thywyn yn draddodiadol wedi gweithredu fel canolfannau i ddyffrynoedd, ardaloedd neu grwpiau o gymunedau o fewn y dalgylchoedd dibyniaeth. Mae’r cyfleusterau a gwasanaethau a ddarperir ynddynt yn cyfarfod ag anghenion o ddydd i ddydd y gymuned leol ond yn cynnig llai o amrywiaeth a dewis o gyfleusterau a gwasanaethau ychwanegol na’r hyn a geir yn y Canolfannau Trefol. Maent hefyd yn ganolfannau pwysig o ran darparu swyddi, cyfleon cyflogaeth a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â hamdden a thwristiaeth.
1.3.55 Mae’r cyfan o’r canolfannau hyn wedi eu lleoli ar rwydwaith ffyrdd strategol y Sir gyda darpariaeth well o gludiant cyhoeddus nac sydd yn gwasanaethu y pentrefi. Mae Dolgellau, Bala, Harlech a Aberdyfi, sydd o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri, yn gwasanaethu rhannau o ardal y Cynllun hwn, a gellir eu hystyried yn Ganolfannau Lleol.
 
Tabl 2: Crynodeb o rôl a swyddogaeth Canolfannau Gwasanaeth
Dalgylch
Dibyniaeth
Canolfannau Is-Ranbarthol Canolfannau Trefol Canolfannau Lleol
1 Bangor Bangor   Bethesda
2 Caernarfon   Caernarfon Llanberis Penygroes
3 Ll_n   Pwllheli Nefyn
4 Porthmadog   Porthmadog Penrhyndeudraeth
Harlech*
Criccieth
5 Ffestiniog   Blaenau Ffestiniog  
6 Dolgellau - Abermaw     Abermaw
Dolgellau*
7 Bala     Bala*
8 Tywyn -
Machynlleth
    Tywyn
Aberdyfi*
       
* - O fewn Parc Cenedlaethol Eryri
 
1.3.56 Ar sail egwyddorion datblygu cynaliadwy a’r angen i integreiddio polisi defnydd tir gyda pholisi trafnidiaeth, bydd statws presennol y cyfan o’r canolfannau uchod yn cael ei warchod a’i hyrwyddo ac fe wneir ymdrech i gryfhau ac ehangu amrywiaeth y gwasanaethau a chyfleusterau a ddarperir ynddynt.
 
Pentrefi a Phentrefi Gwledig
1.3.57 Pentrefi: Fel arfer, mae cyfleusterau neu wasanaethau elfennol ar gael ynddynt megis siop, swyddfa bost neu ysgol ac mewn rhai ceir tafarn neu fodurdy. Yn gyffredinol bydd y trigolion yn teithio i un o ganolfannau’r ardal i siopa neu ar gyfer gwasanaethau mwy arbenigol. Oherwydd y cyfleon gwaith a’r gwasanaethau cyfyngedig yn y pentrefi a’r pentrefi gwledig, mae darpariaeth dda o gludiant cyhoeddus ar gael i gysylltu’r mannau hyn gyda’r canolfannau gwasanaeth yn bwysig. Anelir i ddarparu cyfleon ar gyfer anghenion yr gymuned leol, yn cynnwys tai a diwydiant yn y pentrefi. Rhoddir pwyslais ar gynnal a gwarchod cymeriad a ffurf y pentrefi a rhoi pwyslais ar welliannau amgylcheddol.
1.3.58 Pentrefi gwledig: Dim ond datblygiad cyfyngedig fydd yn wirioneddol angenrheidiol i ddiwallu anghenion yn codi o fewn y gymuned leol a ganiateir. Yn ogystal bydd yn ofynnol i unrhyw ddatblygiad weddu i gymeriad a ffurf y pentref gwledig dan sylw o ran lleoliad, maint, graddfa, dyluniad a deunyddiau.
1.3.59 Mae’r ardaloedd gwledig, sy’n nodwedd gryf o’r dalgylchoedd hyn, wedi wynebu dirwasgiad dros y blynyddoedd diwethaf. Mae rôl cefn gwlad fel lleoliad i fyw ac ennill bywoliaeth ynddo yn bwysig i Wynedd. Rhoir pwyslais yn y Cynllun ar ail-ddefnyddio tir ac adeiladau ar gyfer hybu menter a chreu cyflogaeth o fewn cymunedau gwledig.
1.3.60 Bydd yr hierarchaeth o ganolfannau a nodir yn Nhabl 2 ac ar y Map Cynigion Strategol, yn cael ei gynnal a’i gryfhau trwy sicrhau:
  • mai Bangor a’r canolfannau trefol fydd y ffocws ar gyfer datblygiadau o faint sylweddol;
  • bod canolfannau lleol yn derbyn datblygiadau sy’n unol â’u graddfa a’u swyddogaeth ac yn cynnig modd i gryfhau eu hyfywdra a’u bywiogrwydd presennol neu gynorthwyo i adfywio cymunedau difreintiedig;
  • bydd pentrefi yn derbyn datblygiad yn bennaf i ddiwallu angen lleol;
  • bydd cefn gwlad yn cael ei warchod rhag datblygiadau anaddas ac amhriodol.
  • Y gwneir defnydd priodol o diroedd ac adnoddau a ddatblygwyd eisioes
 
BrigCynnwys
1.4 POLISIAU STRATEGOL
CYFLWYNIAD
1.4.1 Polisïau Strategol y Cynllun Datblygu Unedol sydd yn gosod y cyd-destun defnydd tir ar faterion megis tai, cyflogaeth, manwerthu a'r amgylchedd. Mae polisïau Rhan 1 Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd yn berthnasol ar gyfer holl Ardal y Cynllun. Mae’r Polisïau Strategol hyn wedi eu hanelu at annog a hwyluso datblygiad sydd yn diwallu anghenion cymunedau mewn modd cynaliadwy.
1.4.2 Mae'r polisïau strategol wedi eu rhannu i'r 5 categori canlynol:
  • Ymagwedd Ragofalus
  • Gwarchod yr amgylchedd yn effeithiol
  • Defnyddio adnoddau naturiol yn ddarbodus
  • Sicrhau cynnydd cymdeithasol sydd yn adlewyrchu anghenion pawb
  • Cynnal twf priodol o ran yr economi a chyflogaeth
 
BrigCynnwys
YMAGWEDD RAGOFALUS
MABWYSIADU YMAGWEDD RAGOFALUS - POLISI STRATEGOL 1
Gwrthodir cynigion fydd yn cael ardrawiad annerbyniol ar amgylchedd, cymdeithas neu economi ardal y Cynllun neu ar yr iaith Gymraeg neu gymeriad diwylliannol cymunedau Gwynedd.
 
 
BrigCynnwys
GWARCHOD YR AMGYLCHEDD YN EFFEITHIOL
YR AMGYLCHEDD NATURIOL - POLISI STRATEGOL 2
Bydd amgylchedd naturiol a chymeriad arbennig yr ardal yn cael ei amddiffyn rhag datblygiadau anaddas a’i warchod a’i wella ar sail ei werth o ran tirlun a morlun, bioamrywiaeth, fel tir agored o fewn a rhwng cymunedau a’i gyfraniad i ffyniant economaidd y Sir.
 
 
BrigCynnwys
TREFTADAETH ADEILADOL AC HANESYDDOL - POLISI STRATEGOL 3
Bydd treftadaeth adeiladol a hanesyddol yr ardal yn cael ei amddiffyn rhag datblygiadau anaddas a disgwylir i ddatblygiadau newydd o fewn ardaloedd hanesyddol gydfynd â safonau dylunio arbennig o uchel.
 
 
BrigCynnwys
SAFON DYLUNIO - POLISI STRATEGOL 4
Anogir datblygwyr i ddefnyddio safon da o ddylunio (gan gynnwys yr holl waith adeiladu, tirlunio, ffyrdd a gwaith peirianyddol arall) er mwyn sicrhau bod pob datblygiad yn gwneud cyfraniad positif i'r tirlun a'r amgylchedd adeiledig a chyfraniad pwysig i ddatblygiad cynaliadwy a gwneud defnydd effeithiol o dir, adnoddau, ynni a d_r.
 
 
BrigCynnwys
DATBLYGIADAU SYDD YN CREU RISG - POLISI STRATEGOL 5
Bydd datblygiadau sydd yn anghyson gyda'r angen i warchod tiroedd gorlifo neu ostwng y perygl o lifogydd a datblygiadau sydd yn creu risg o ddifrod annerbyniol i iechyd, eiddo neu yr amgylchedd yn cael eu gwrthod.
 
 
BrigCynnwys
DEFNYDDIO ADNODDAU NATURIOL YN DDARBODUS
AIL-DDATBLYGU AC AIL-DDEFNYDDIO TIR A DDEFNYDDIWYD EISOES - POLISI STRATEGOL 6
Rhoir blaenoriaeth uchel iwneud defnydd addas a phriodol o dir ddefnyddiwyd o’r blaen neu adeiladau sy’n wag neu ddim yn cael eu defnyddio i’w llawn botensial. Cefnogir cynigion datblygu cyn belled na fyddent yn cael ardrawiad annerbyniol ar yr amgylchedd neu ar fwynderau trigolion cyfagos.
 
 
BrigCynnwys
MWYNAU - POLISI STRATEGOL 7
Caniateir datblygiadau i wneud defnydd o adnoddau mwynau, yn cynnwys agregau eilradd, os na fyddant yn cael ardrawiad annerbyniol ar yr amgylchedd nac ar fwynderau trigolion cyfagos. Gwarchodir yr adnoddau yma rhag datblygiad er mwyn gwarchod cyfraniad Gwynedd i’r gronfa fwynau rhanbarthol a chenedlaethol.
 
 
BrigCynnwys
GWASTRAFF - POLISI STRATEGOL 8
Caniateir cynigion ar gyfer cyfleusterau i drin a gwaredu gwastraff os ydynt yn diwallu anghenion “Yn Gall gyda Gwastraff” - Strategaeth Gwastraff Cymru (Mehefin 2002) a strategaethau rhanbarthol a lleol, ac na fyddai yn cael ardrawiad annerbyniol ar yr amgylchedd neu ar fwynderau trigolion cyfagos.
 
 
BrigCynnwys
YNNI - POLISI STRATEGOL 9
Caniateir cynlluniau i ddarparu ynni o ffynonellau adnewyddol fyddai ddim yn cael ardrawiad annerbyniol ar yr amgylchedd neu ar fwynderau trigolion cyfagos.
 
 
BrigCynnwys
SICRHAU CYNNYDD CYMDEITHASOL SYDD YN ADLEWYRCHU ANGHENION PAWB
CARTREFI - POLISI STRATEGOL 10
Dynodwyd safleoedd ar gyfer adeiladu tai newydd ar gyfer angen cyffredinol yn y dalgylchoedd dibyniaeth yn ôl y raddfa isod :
 
Ardal Dalgylch Dibyniaeth
Dynodiadau
(unedau)
 
2001 - 2011
2012 - 2016
Bangor
524
258
Caernarfon
389
191
Ll_n
121
60
Porthmadog
54
28
Ffestiniog
45
23
   
 
2001 - 2016
Bala
5
Dolgellau/Abermaw
0
Tywyn/Machynlleth
0
CYFANSWM 2001 - 2016
1657
* Nid yw’r ffigyrau uchod yn cynnwys dynodiadau ar gyfer yr ardaloedd hynny sydd o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri.
 
 
BrigCynnwys
HYGYRCHEDD - POLISI STRATEGOL 11
Caniateir cynigion datblygu sydd, oherwydd eu lleoliad, yn hygyrch i bawb trwy amrywiaeth o ddulliau cludiant os fydd yr is adeiledd priodol, yn cynnwys priffyrdd, llwybrau ac adnoddau beicio a llwybrau cerdded, yn eu lle, neu yn cael eu darparu, ac na fyddai yn cael ardrawiad annerbyniol ar yr amgylchedd neu ar fwynderau trigolion cyfagos.
 
 
BrigCynnwys
CLUDIANT - POLISI STRATEGOL 12
Caniateir cynlluniau cludiant sydd yn ffurfio rhan o’r rhwydwaith trafnidiaeth strategol ac integreiddiedig a nodwyd yn Diagram Allweddol, sydd yn ymestyn y dewis o ddulliau teithio, yn hwyluso hygyrchedd y boblogaeth leol ac yn dangos manteision clir o ran effeithlonrwydd a diogelwch y rhwydwaith, os nad ydynt yn arwain at gynnydd annerbyniol yn yr angen i deithio, yn cael ardrawiad annerbyniol ar yr amgylchedd neu ar fwynderau trigolion cyfagos.
 
 
BrigCynnwys
CYFLEUSTERAU A GWASANAETHAU CYMUNEDOL - POLISI STRATEGOL 13
Caniateir cynigion datblygu sydd yn cynnal a gwella’r ddarpariaeth bresennol o gyfleusterau a gwasanaethau cymunedol neu lecynnau mwynderol o fewn y cymunedau os nad ydynt yn cael ardrawiad annerbyniol ar yr amgylchedd neu ar fwynderau trigolion cyfagos.
   
 
BrigCynnwys
CHWARAEON A HAMDDEN - POLISI STRATEGOL 14
Caniateir cynigion datblygu ar gyfer gweithgareddau chwaraeon a hamdden o safon sydd yn diwallu angen cydnabyddiedig ac yn ehangu yr amrediad o weithgareddau sydd ar gael os nad ydynt yn cael ardrawiad annerbyniol ar yr amgylchedd neu ar fwynderau trigolion cyfagos.
 
 
BrigCynnwys
HYRWYDDO TWF PRIODOL O RAN YR ECONOMI A CHYFLOGAETH
TIR DIWYDIANNOL - POLISI STRATEGOL 15
Dynodir safleoedd ar gyfer mentrau cyflogaeth i gwrdd â’r diffyg sydd wedi ei nodi ym mhob ardal dalgylch dibyniaeth ar gyfer cyfnod y Cynllun (2001 – 2016) :
Dalgylch Tir ar gael (yn cynnwys ardal Parc Cenedlaethol Eryri) Tir ychwanegol sydd angen ei ddynodi yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd
Bangor
55.35 ha
4.0 ha
Caernarfon
22.78 ha
0 ha
Ll_n
12.95 ha
8.35 ha
Porthmadog
12.84 ha
0 ha
Ffestiniog
7.34 ha
0 ha
Tywyn/Machynlleth
4.60 ha
0 ha
Dolgellau/Abermaw
1.82 ha
0 ha
Bala
3.97 ha
0 ha
 
 
BrigCynnwys
CYFLOGAETH - POLISI STRATEGOL 16
Caniateir datblygiadau fydd yn cryfhau ac arall-gyfeirio economiau lleol o fewn y dalgylchoedd dibyniaeth, os nad ydynt yn cael ardrawiad annerbyniol ar yr amgylchedd, nodweddion diwylliannol yr ardal neu ar fwynderau trigolion cyfagos.
   
 
BrigCynnwys
TWRISTIAETH - POLISI STRATEGOL 17
Caniateir cynigion i ddatblygu neu wella'r amrywiaeth a'r safon o gyfleusterau ac atyniadau twristiaeth os nad ydynt yn cael ardrawiad annerbyniol ar yr amgylchedd, nodweddion diwylliannol yr ardal neu ar fwynderau trigolion cyfagos.
 
 
BrigCynnwys
MANWERTHU A CHANOL TREFI - POLISI STRATEGOL 18
Caniateir datblygiadau fydd yn cynnal statws, yn cryfhau ac amrywio cyfleusterau manwerthu yn y Canolfannau Gwasanaeth ac yn cyfrannu at welliannau amgylcheddol i'r drefwedd.
 
BrigCynnwys